Adeilad Ffau
Annog Datblygiad Corfforol drwy Adeiladu Den
Mae adeiladu den y tu mewn neu’r tu allan yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau eich plentyn.
Nid yn unig mae’n wych i gadw’n iach a ffit ond hefyd yn wych i’w lles yn gyffredinol. Mae'n gallu rhoi oriau o hwyl a lle arbennig i'ch plentyn ddianc iddo yn y cyfnod rhyfedd hwn. Mae adeiladu den hefyd yn annog symud drwy gasglu deunyddiau, yn gwella sgiliau symud mawr a bach drwy godi, cario, gosod, gafael a chydio tra’n cael llawer o hwyl a datblygu’r dychymyg.
Beth fydda i ei angen?
(chwiliwch am le o’r neilltu fel na fydd yn rhaid tynnu’r den i lawr ar unwaith)
Gall pethau pob dydd yn y tŷ wneud den wych! Dyma rai awgrymiadau: