Babis Dŵr
Mae sawl ffordd y gallwch helpu eich plentyn i fagu hyder yn y dŵr. Beth am drio rhai o’r syniadau isod er mwyn annog hwyl a symud yn y dŵr?
Cofiwch wneud yn siwr bod eich plentyn yn teimlo’n ddiogel yn y dŵr bob amser er mwyn iddo allu ymlacio a mwynhau, a pheidiwch byth a gadael eich plentyn ar ei ben ei hun mewn dŵr.
Mae’n syniad da rhannu’r bath a’r gawod gyda’ch plentyn i ddechrau, gan y bydd hyn yn rhoi hyder a sicrwydd iddo ddechrau symud yn y dŵr.
Gallwch helpu plant hŷn i fagu’r sgiliau symud y byddant eu hangen wrth ochr y pwll drwy eu hannog i neidio i lawr o ris isaf y grisiau. Gosodwch eu bysedd traed ar ymyl y ris, a gofynnwch iddyn nhw greu siapiau gwahanol gyda’u cyrff wrth neidio i lawr.
Mae paratoi ar gyfer y dŵr yn helpu’ch plentyn i ddatblygu hyder a mwynhau nofio, a bydd datblygu cryfder craidd allan o’r dŵr yn ei helpu pan fydd hi’n amser mentro i’r pwll.
Mae’n syniad da sblasio a thywallt dŵr dros eich plentyn, gan gynnwys ar ei wyneb. Ceisiwch chwythu swigod a defnyddiwch ganeuon syml i helpu’ch plentyn i wybod pryd y byddwch yn tywallt y dŵr drosto ayb.
Defnyddiwch bwll nofio yn yr ardd fel y cam nesaf. Defnyddiwch ddyfeisiau diogelwch dŵr, fel nŵdls pwll nofio a theganau bath. Pan fydd eich plentyn yn teimlo’n hyderus, ac yn ddigon cryf i gadw’i wyneb allan o’r dŵr, ceisiwch annog amser ar y bol yn y dŵr.
Mae chwarae gyda dŵr yn y bath yn ffordd ardderchog i fagu hyder. Pan fydd cyhyrau pen a gwddf eich babi yn ddigon cryf, ceisiwch ei annog i arnofio. Wrth i chi gynnal ei ben, gall y babi gicio’n rhydd a dod i arfer gyda’r teimlad o fod mewn dŵr. Mae hyn yn berthnasol i bob oedran.