Datblygu Sgiliau Pêl
Mae plant bach wrth eu bodd yn chwarae gyda pheli, ac mae peli o wahanol faint, siâp a deunydd ar gael. Mae peli yn ANHYGOEL oherwydd gall plant eu defnyddio mewn cymaint o wahanol ffyrdd – ffyrdd sydd yn newid wrth i blant ddatblygu sgiliau newydd a darganfod pethau gwahanol i wneud gyda’r peli.
I blant llai, gall chwarae gyda pheli eu helpu i ddatblygu nifer o sgiliau corfforol fel gafael a chydio, cryfhau cyhyrau’r dwylo a’r bysedd, cydsymud llaw a llygad a’r gallu i symud pethau o un llaw i’r llall. Mae hefyd yn cryfhau gallu’r llygad i ddilyn pethau ac yn cryfhau sgiliau meddwl.
Basged Drysor
Dechreuwch drwy greu basged drysor addas i fabis a phlant bach, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw chwarae gyda pheli o wahanol fath a maint.
Bownsio
Gan ddefnyddio peli ysgafn neu falwnau, annogwch eich plentyn i’w bownsio nhw ar y llawr a gweld pa mor uchel y gallan nhw fynd.
Nesaf, ceisiwch gyflwyno basged olchi a bownsiwch y balŵn a’r bêl i mewn i’r fasged.
Sawl balŵn fydd yn ffitio yn y fasged?
Postio
Glynnwch hen diwbiau cardfwrdd, neu ddarnau o hen beipiau plastig, i ryddiadur gyda thap lliw.
Gan ddefnyddio’r peli amrywiol o’ch basged drysor, ceisiwch weld pa beli fydd yn gallu ffitio drwy’r tiwbiau.
Pa mor hir mae’n cymryd iddyn nhw fynd i lawr y tiwb? Ydy peli mwy garw yn cymryd mwy o amser na rhai llyfn? Ydyn nhw’n bownsio ar y gwaelod?
Arbrofwch a mwynhewch!