Llythrennedd corfforol
Yn syml, mae'r term llythrennedd corfforol yn golygu bod eich babi yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau echddygol pwysig, ac wrth iddo dyfu yn ei flwyddyn gyntaf, bydd gweithgaredd corfforol yn rhan hanfodol o’i ddatblygiad o’i enedigaeth ymlaen. Yn ystod y 1000 diwrnod 1af, bydd eich babi yn newid yn gorfforol ac yn emosiynol ar raddfa gyflym, a bydd y newidiadau hyn yn gosod sylfaen ar gyfer iechyd a lles eich babi at y dyfodol.
Felly, mae’n bwysig rhoi llawer o gyfleoedd i’ch babi ymarfer ei sgiliau o oedran cynnar iawn. Mae angen cyfleoedd i ymarfer bod ar ei fol, chwarae ar y llawr, cyrraedd am wrthrychau a gafael ynddynt, troi ei ben atoch chi neu at degan, a thynnu, gwthio a chwarae’n rhydd, gan archwilio ei amgylchedd. Mae chwarae gyda’ch babi, a dangos iddo sut i chwarae, darparu gweithgareddau heriol a rhoi cyfle i’w hymarfer, ynghyd â’r anogaeth i ddatblygu a dal cyswllt llygad, oll yn helpu i gefnogi ei daith llythrennedd corfforol.
Ond sut mae hyn i gyd yn edrych yn ystod blwyddyn gyntaf eich babi?
Mae'r 1000 diwrnod cyntaf yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau echddygol a sefydlu patrymau gydol oes. Mae hefyd yn gyfnod pan fydd eich babi yn mynd trwy ddatblygiadau corfforol, emosiynol a chymdeithasol cyflym. Mae gweithgaredd corfforol yn ystod y pum mlynedd cyntaf yn helpu twf ymennydd eich babi ac yn datblygu a gwella ei sgiliau cymdeithasol. Gellir meithrin hyn i gyd drwy chwarae egnïol, a gall ein cyfres o gardiau a fideos eich cefnogi chi i ddatblygu ei sgiliau symud a’i hyder drwy bŵer chwarae.
Mae’r budd a ddaw i’ch babi o fod yn gorfforol egnïol yn mynd ym mhell y tu hwnt i’r buddion corfforol. Mae hefyd yn cefnogi datblygiad:
Canllawiau gweithgaredd corfforol 0-5
Babanod (o dan flwydd oed)
Dylai babanod fod yn gorfforol egnïol sawl gwaith bob dydd mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys gweithgareddau rhyngweithiol ar y llawr, e.e. cropian.
Ar gyfer babanod sydd ddim yn symud eto, dylai hynny gynnwys o leiaf 30 munud o amser ar eu boliau wedi ei rannu’n gyfnodau byrrach yn ystod y dydd, tra mae’r babi’n effro (a symudiadau eraill fel estyn a gafael, gwthio a thynnu eu hunain yn annibynnol, neu rolio drosodd - gorau po fwyaf).
Canllawiau Gweithgaredd Corfforol gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn 2019, NB: Gall bod ar y bol deimlo’n rhyfedd i fabanod i ddechrau, ond gellir cychwyn gyda munud neu ddau ar y tro, gan gynyddu’r amser yn araf wrth i’r babi arfer. Ni ddylai babanod gysgu ar eu boliau.
Mae ailadrodd gweithgareddau yn helpu babanod i deimlo’n glyd a diogel. Mae hefyd yn helpu i ddatblygu eu llwybrau niwral.