Resource header image

Mae yna rywbeth hudolus ynghylch garddio

Small EYW logo

Mae yna rywbeth hudolus ynghylch garddio... …ac mae plant yn gwybod hynny!

Mae plant bach wrth eu bodd yn yr awyr agored yn darganfod natur.

Mae yna ddigonedd o bethau i'w gwneud yn yr ardd a gallwch ddatblygu eu profiadau drwy fwynhau’r awyr agored gyda’ch gilydd.

Mae bod yn gorfforol actif yn yr awyr agored yn galluogi plant ifanc i ddysgu am y byd o’u cwmpas!

I’w hannog i hoffi garddio, anogwch nhw i ddefnyddio'r 5 synnwyr drwy gyflwyno rhai o’r syniadau canlynol....

  • Cyflwynwch eich plentyn bach i fwydod neu bryfed genwair, y fuwch goch gota a gloynod byw a thrafod pa mor bwysig ydyn nhw ym myd natur.
  • Plannwch flodau haul a gweld pa mor dal mae’n nhw’n tyfu
  • Gwnewch lain a rhoi offer bychan ei hunan i’r plentyn i balu h.y. llwyau mawr, offer cegin. Rhowch datws a moron go iawn i chwarae yn y pridd.
  • Defnyddiwch y can dyfrio a dangos yr holl blanhigion sychedig.
  • Tyfwch fefus mewn tybiau a mwynhau’r ffrwyth.Bydd eich plant yn gallu gweld fod tyfu planhigion newydd yn hynod o hawdd!
  • Gwnewch bin synhwyrol yn yr ardd gyda phridd perlysiau a photiau.
Resource image in body
Resource footer logos