Pwysigrwydd canu caneuon a rhigymau
Gall canu caneuon a rhigymau i fabanod, nid yn unig eu helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfathrebu o oedran ifanc, ond gall hefyd hybu datblygiad corfforol eich babi gan ei fod yn darparu cyfle gwych i fabanod symud, a datblygu ymwybyddiaeth gorfforol.
Felly pam mae canu caneuon a hwiangerddi yn bwysig?
Oeddech chi'n gwybod?
Nid yn unig y mae canu yn dda i’ch iechyd meddwl a’ch hwyliau, ond mae ymchwil yn dangos y gall canu helpu i gryfhau eich system imiwnedd. Oeddech chi’n gwybod bod canu hefyd yn weithgaredd aerobig? Mae’n ein gorfodi i anadlu’n ddwfn, sy’n tynnu mwy o ocsigen i mewn i’n cyrff. Mae’r ocsigen yma yn teithio o amgylch ein ffrydiau gwaed a hyd yn oed yn ocsigenu ein hymennydd.
Am gymorth i ddysgu caneuon a rhigymau newydd yn Gymraeg, ewch i wefan CYW: