Resource header image

Swigod

Small EYW logo

Nid yn unig mae swigod yn llawer iawn o hywl ond maen nhw hefyd yn ffordd wych i helpu eich baban neu eich plenty bach i ddatblygu sgilau corfforol a gweld.

Mae swigod yn dal y llygad ac yn symud yn araf ac yn ffordd wych o helpu eich baban i ddysgu i ddefnyddio’r llygaid. Gallwch ei annog i ymestyn allan gyda’r ddwy law i glapio’r swigen, defnyddio’r myngefys i’w pwnio a’u “gwasgu” a chydio yn y swigod gyda’r llaw gyfan cyn iddyn nhw ddisgyn i’r llawr. Mae hyn yn helpu i gydgysylltu’r dwylo a’r llygaid. Mae swigod yn wlyb, yn yn llithrog ac yn glynu, maen nhw’n teimlo’n rhyfedd ac mae’r weithred gorfforol o’u chwythu yn ffordd hynod synhwyrol o helpu babanod a phlant bach i deimlo’n dawel.

Mae chwythu swigod yn ymarfer da i gegau bach, ond mae’n gallu bod yn waith caled felly helpwch nhw a’i wneud yn hwyl!

Pam na rowch chi dro ar wneud cymysgedd swigod gartref?

Dull:

Yn gwneud: 350ml

Amser paratoi: 5 nunud

50ml hylif golchi llestri (un rhan)

300ml dŵr (chwe rhan)

  • Mesurwch yr hylif golchi llestri mewn cynhwysdd.
  • Ychwanegwch y dŵr yn araf, ceisiwch beidio creu gormod o swigod ar hyn o bryd. Cymysgwch y gymysgedd yn araf i’w gyfuno = mae ‘chopstick’ yn ddelfrydol ar gyfer hyn.
  • Os gallwch chi, gadewch i’r cymysgedd swigod orffwys cyn ei ddefnyddio, bydd hyd yn oed yn well am wneud swigod.
  • Pan fyddwch yn barod, rhowch eich hudlath swigod yn y gymysgedd a dechrau chwythu swigod!
Resource image in body

Tip

Os nad oes gennych chi hudlath, gallwch gael hwyl yn chwilio am wahanol bethau o gwmpas y tŷ i wneud swigod.

Dyma rai syniadau i gychwyn arni:

  • Clipiau papur – plygwch nhw i wneud hudlath neu eu defnyddio fel y maen nhw
  • Gwelltyn
  • Colandr
  • Glanhawyr pibelli
  • Pethau lladd pryfed
Resource image in body
Resource footer logos