Resource header image

Twneli Synhwyraidd

Small EYW logo

Mae plant ifanc angen datblygu symudiadau bach a mawr er mwyn gallu rheoli eu cyhyrau. Bydd cyflwyno mathau gwahanol o orchudd ar loriau’n rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu symudiadau megis rholio, llithro, ymlusgo a chropian. Mae pob un o'r symudiadau hyn yn sgil bwysig a fydd yn helpu'ch plentyn i archwilio symud yn hyderus mewn gwahanol ffyrdd.

What are motor skills and how does my baby develop them?

Beth sydd gen i ar gyfer gwneud twnnel synhwyraidd?

Pam na rowch chi dro ar rai o’r pethau hyn...

Twnnel chwarae neu focs cardfwrdd mawr, blancedi, hen len cawod, swigod lapio, clustogau gyda gwead, rhubanau, hen CD,au rholyn drych, sanau wedi’u llenwi â phapur newydd, darnau o ddefnydd fel cregyn/ cerrig, goleuadau tylwyth teg

…...unrhyw beth a fydd yn annog y synhwyrau.

Resource image in body

Sut alla i wneud pethau’n ddiddorol?

Rhowch dro ar y syniadau hyn...

  • Defnyddiwch oleuadau tylwyth teg i greu twnnel llachar a hongian pethau o'r to y gall plentyn eu tynnu i lawr wrth gropian trwyddo.
  • Llanwch sanau gyda gwahanol weadau a synau e.e. clychau, papur wedi’i wasgu y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu ffordd trwyddyn nhw.
  • Rhoddwch ddisgiau CDau ar wahanol wynebau ar y llawr, megis blancedi, swigod lapio neu len cawod gyda gwead.
  • Ychwanegwch luniau o’r plentyn neu rolyn drych ar ochr y twnnel i’w wneud yn hwyl ac yn groesawgar!

Mae cerdded neu gropian ar wahanol wynebau’n gwneud i wahanol gyhyrau weithio ac yn helpu i gadw’r cydbwysedd.

Resource image in body

Annog gwahanol ffyrdd o symud trwy’r twnnel...

h.y. ar eu boliau, ar eu dwylo a’u pengliniau, cropian ymlaen ac yn ôl o un pen i’r llall. Llithro trwy’ twnnel (ysgwyd y corff i’r chwith a’r dde) neu gyflymu trwy’r twnnel ar ddwylo a thraed neu hyd yn oed gropian fel cranc drwy’r twnnel.

Resource image in body
Resource footer logos